img Leseprobe Leseprobe

Enaid Lewys Meredydd (eLyfr)

Stori am y Flwyddyn 2002

T. Gwynn Jones

EPUB
ca. 10,99
Amazon iTunes Thalia.de Weltbild.de Hugendubel Bücher.de ebook.de kobo Osiander Google Books Barnes&Noble bol.com Legimi yourbook.shop Kulturkaufhaus ebooks-center.de
* Affiliatelinks/Werbelinks
Hinweis: Affiliatelinks/Werbelinks
Links auf reinlesen.de sind sogenannte Affiliate-Links. Wenn du auf so einen Affiliate-Link klickst und über diesen Link einkaufst, bekommt reinlesen.de von dem betreffenden Online-Shop oder Anbieter eine Provision. Für dich verändert sich der Preis nicht.

Melin Bapur img Link Publisher

Belletristik / Fantasy

Beschreibung

(Enaid Lewys Meredydd is almost certainly the earliest science fiction novel written in Welsh and is available here for the first time since its original serialisation.)


Noder: Elyfr yw hwn / this is an eBook


"Draw yn y pellter, fel dwy aden wen fawr, roedd dwy long awyr yn troi ac yn hofran, weithiau'n codi ac weithiau'n gostwng uwchben Sir Fôn, a'r naill fel pe buasai yn ymlid yr llall, fel pe buasent ddwy wylan ar yr aden. 

Daethant yn nes, nes. Roeddynt o'r diwedd uwchben Menai. "Gwêl!" ebe Ap Rhys. 

Gwelwyd rhywbeth fel llinyn o dân yn neidio o un llong at y llall, a'r funud nesaf, roedd y naill yn disgyn fel carreg i'r afon, a'r llall yn ymgodi fel pluen i'r awyr." 


Y flwyddyn yw 2002. Hyd ei oes, mae Meredydd Fychan wedi bod yn glaf anymwybodol dan ofal meddyg, yn fyw ond heb ddangos unrhyw arwydd o ymwybyddiaeth. Ond un bore, mae'n deffro, ac yn taeru mai ef yw Lewys Meredydd, bonheddwr fu farw bron i ganrif yn ôl. Does bosib ei fod yn dweud y gwir?


Ysgrifennwyd Enaid Lewys Meredydd yn 1905, ac mae'n ymddangos yn y gyfrol hon ar ffurf llyfr am y tro cyntaf erioed. Y nofel hon, hwyrach, yw'r nofel ffuglen wyddonol cynharaf i'w hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg, ac mae'n cynnig cipolwg unigryw o ddychymyg un o Gymry blaenllaw'r oes ynglŷn â'r dyfodol.


Thomas Gwynn Jones (1871-1949) yw un o brif ffigyrau llenyddol a deallusol y byd Cymraeg. Enillodd y Gadair yn 1902 gyda'i awdl Ymadawiad Arthur, ond ar y pryd roedd yn fwy enwog fel nofelydd a newyddiadurwr. Bu'n ysgrifennu ar gyfer nifer o bapurau newydd yn y Gymraeg a'r Saesneg, lle cyhoeddwyd ei nofelau fesul bennod, Enaid Lewis Meredydd yn eu plith, a ymddangosodd yn Papur Pawb yn 1905. Y fersiwn hwn yw'r tro gyntaf i'r nofel ymddangos ar ffurf cyfrol ers i'r nofel ymddangos fel cyfres yn 1905. Mae'r orgraff a'r sillafu wedi'u diweddaru rhywfaint.

Weitere Titel in dieser Kategorie

Kundenbewertungen

Schlagwörter

Classic, Victorian, Steampunk, Sci-Fi, Science Fiction, Welsh-language, Welsh